2012 Rhif  320 (Cy. 51) (C.10)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”). Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd Gorchymyn Cychwyn i'w wneud o dan Fesur 2009.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 3, 7, 8, 11, 12, 17, 18 a 19 o Fesur 2009 ar 10 Chwefror 2012 . Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen) a pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen i Fesur 2009.

Mae adran 3 yn galluogi plentyn i fod â pherson (o'r enw “cyfaill achos”) i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r awdurdod lleol neu arfer hawl plentyn i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig ar ran y plentyn.

Mae adran 7 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas ag apelau.

Mae adran 8 yn diwygio'r weithdrefn ar gyfer  gwneud rheoliadau o dan Ddeddf Addysg 1996.

Mae adran 11 yn diwygio gweithdrefn y Tribiwnlys mewn perthynas â hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd.

Mae adran 12 yn galluogi plentyn i fod â chyfaill achos i gyflwyno sylwadau ar ran y plentyn i osgoi neu ddatrys anghydfodau â'r corff sy'n gyfrifol am ysgol neu arfer hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd i'r Tribiwnlys ar ran y plentyn.

Mae adran 17 yn galluogi Gweinidogion Cymru i dreialu'r darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009.

Mae adran 18 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn yn ystod unrhyw dreial neu ar ôl unrhyw dreial am hawliau plant i wneud apelau a hawliadau. 

Mae adran 19 yn cynnwys diffiniadau sy'n berthnasol i weithrediad adrannau 17 a 18.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau yn adrannau 1, 2, 4, 5, 6, 9, 10, 13, 14, 15 a 16 o Fesur 2009 ar 6 Mawrth 2012. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym adran 23 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen) a pharagraffau 2, 3, a 5 o'r Atodlen i Fesur 2009. Effaith cychwyn y darpariaethau hyn o'u cymryd ynghyd â rheoliadau a wneir o dan adran 17 o Fesur 2009 yw na fydd y darpariaethau hyn yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Ar ddiwedd y treialu bydd y darpariaethau yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan:

(a)     mae adran 1 yn rhoi hawl i blentyn apelio i'r Tribiwnlys mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig;

(b)     mae adran 2 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i roi hysbysiad i'r plentyn, neu gyflwyno dogfen iddo ef, yn ogystal â'r rhiant;

(c)     mae adran 4 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal, unrhyw riant neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw; 

(ch) mae adran 5 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng yr awdurdod lleol a phlentyn a'r awdurdod lleol a rhiant plentyn;

(d)     mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio unrhyw blentyn yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano; 

(dd) mae adran 9 yn rhoi hawl i blentyn i wneud hawliad i'r Tribiwnlys am wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion;

(e)     mae adran 10 yn gwneud darpariaeth am derfynau amser i ddod â hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd gerbron y Tribiwnlys;

(f)      mae adran 13 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu bod cyngor a gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion yn cael eu darparu i unrhyw blentyn yn ei ardal ac i unrhyw gyfaill achos i'r plentyn hwnnw; 

(ff)  mae adran 14 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau datrys anghydfodau annibynnol i osgoi neu ddatrys anghytundebau rhwng plentyn anabl a'r corff sy'n gyfrifol am yr ysgol;

(g)     mae adran 15 yn gosod dyletswydd ar yr awdurdod lleol i drefnu gwasanaethau eiriol annibynnol ac i gyfeirio plentyn anabl yn ei ardal, neu gyfaill achos i'r plentyn hwnnw, at y gwasanaeth os ydynt yn gofyn amdano;

(ng) mae adran 16 yn rhoi pŵer cyfarwyddo i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 pan fydd awdurdod lleol yn gweithredu neu yn bwriadu gweithredu yn afresymol wrth gyflawni dyletswydd neu pan fydd wedi methu â chyflawni dyletswydd.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â dyletswydd yr awdurdod lleol i wneud trefniadau i ddarparu cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau datrys anghydfodau. 

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Ducpwyd darpariaethau canlynol Mesur 2009 i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

 

Y Ddarpariaeth

Dyddiad

Cychwyn

O.S. Rhif

Adran 20 

 

11 Mehefin 2011

2011 Rhif 1468 (Cy.173) (C.56)

Adran 21

1 Medi 2011

2011 Rhif 1951 (Cy.215) (C.70)

Adran 22

1 Medi 2011

2011 Rhif 1951 (Cy.215) (C.70)

 

 


2012 Rhif 320 (Cy. 51) (C.10)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012

Gwnaed                               8 Chwefror 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 24(2) a 26(3) o Fesur Addysg (Cymru) 2009([1]) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012. 

(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur 2009” (“the 2009 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2009.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 10 Chwefror 2012

2. Daw'r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 10 Chwefror 2012—

(a)     adran 3 (cyfeillion achos);

(b)     adran 7 (gweithdrefn y tribiwnlys);

(c)     adran 8 (gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau);

(ch) adran 11 (gweithdrefn y tribiwnlys)([2]);

(d)     adran 12 (cyfeillion achos)([3]);

(dd) adran 17 (treialu hawliau plentyn i apelio neu i wneud hawliad);

(e)     adran 18 (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch apelau a hawliadau gan blentyn);

(f)      adran 19  (dehongli adrannau 17 ac 18);

(ff)  adran 23 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 a 4 o'r Atodlen; a 

(g)     paragraffau 1 a 4 o'r Atodlen.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 6 Mawrth 2012

3. Daw’r darpariaethau a ganlyn yn Rhan 1 (apelau a hawliadau addysg gan blant) o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012—

(a)     adran 1 (hawl plentyn i apelio mewn cysylltiad ag anghenion addysgol arbennig);

(b)      adran 2 (hysbysu a chyflwyno dogfennau);

(c)      adran 4 (cyngor a gwybodaeth);

(ch) adran 5 (datrys anghydfodau);

(d)      adran 6 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(dd) adran 9 (hawl plentyn i wneud hawliad gwahaniaethu ar sail anabledd);

(e)      adran 10 (amser ar gyfer dwyn achos);

(f)       adran 13 (cyngor a gwybodaeth);

(ff)  adran 14 (datrys anghydfodau);

(g)      adran 15 (gwasanaethau eirioli annibynnol);

(ng) adran 16 (rôl  Gweinidogion Cymru);

(h)      adran 23 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen; a

(i)      paragraffau 2, 3 a 5 o'r Atodlen.

Darpariaethau Trosiannol

4. Ar unrhyw adeg pan fo rheoliadau o dan adran 17 o Fesur 2009 mewn grym—

(a)     mae adran 332A o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 4(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym;

(b)     mae adran 332B o Ddeddf Addysg 1996 yn parhau i fod yn gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru ac eithrio Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel petai'r diwygiadau a wnaed gan adran 5(2) o Fesur 2009 heb fod mewn grym.

 

 

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

8 Chwefror 2012

 

 



([1])           2009 mccc 5. Diwygiwyd adrannau 9 i 19, 26 a'r Atodlen i Fesur 2009 gan O.S. 2011/1651 (Cy. 187).

([2])           Diwygiwyd adran 11 gan O.S. 2011/1651, erthygl 5.

([3])           Diwygiwyd adran 12 gan O.S. 2011/1651, erthygl 6.